Mrs Maria Miller, Chair
 Women and Equalities Committee 
 House of Commons
 London 
 SW1A 0AA

12 Rhagfyr 2017

Annwyl Mrs Miller

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 12 Hydref. Rwy’n ysgrifennu gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Ers dechrau arno, mae’r Pwyllgor wedi culhau cwmpas yr ymchwiliad i ganolbwyntio ar effaith Brexit ar hawliau dynol.

Yn ein cyfarfod ar 19 Hydref buom yn ystyried y trafodaethau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a chlywsom gan Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cytunwyd ar gyfres o egwyddorion craidd y credwn y dylid cydymffurfio â nhw yn ystod y broses Brexit mewn perthynas â hawliau dynol.

Byddwn yn monitro cynnydd yn ôl yr egwyddorion hyn a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n pwyllgorau seneddol cyfatebol ar draws y DU ar y materion hyn.

Yr egwyddorion craidd yw:

-     ni fydd unrhyw atchweliad i’r amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol sydd gennym yma ym Mhrydain ar ôl i ni adael yr UE;

-     dylai Cymru sefydlu mecanwaith ffurfiol i olrhain datblygiadau yn y dyfodol o ran hawliau dynol a chydraddoldeb yn yr UE, i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn elwa o'r un lefel o ddiogelwch â dinasyddion yr UE; a

-     dylai Cymru barhau i fod yn arweinydd byd-eang ym maes hawliau dynol, ac ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i gau unrhyw fylchau o ran hawliau ac amddiffyniad os nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny (lle bo modd).

Rydym o'r farn bod yn rhaid cadw'r Siarter Hawliau Sylfaenol mewn rhyw ffurf ar ôl ymadael â’r UE. Croesawn y datganiad a wnaed gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ar 24 Hydref[1] a oedd yn cefnogi'r ymdrechion i sicrhau y bydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn parhau i barchu'r Siarter ar ôl Brexit. Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyhoeddi'r dadansoddiad o sut y bydd hawliau'r Siarter yn cael eu diogelu ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

Croesawn eich adroddiad ar ‘Ensuring strong equalities legislation after the EU exit’, yn arbennig eich galwad am ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i roi gwarchodaeth debyg i’r  hawliau yn y Ddeddf Hawliau Dynol i’r hawliau sydd wedi’u corffori yn y Ddeddf honno. Rydym hefyd yn cefnogi’r argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn o ran:

-     Sicrhau nad yw colli’r fframwaith a ddarparwyd gan yr UE yn arwain at leihau neu wanhau gwarchodaethau o ran cydraddoldeb;

-     Eglurder o ran statws cyfraith achos yr UE yn y dyfodol, pan fydd y DU wedi ymadael â’r UE;

-     Sicrhau bod arian ar gael fel y gall ymchwil a chymdeithas ddinesig y DU barhau i gynnal cysylltiadau rhyngwladol; ac

-     Asesiad o’r lefelau arian a gwaith yr UE y dylid ei gyflawni wedyn, i adnabod a datblygu ffynonellau ariannu eraill, yn ffynonellau arian y wladwriaeth a ffynonellau eraill.

Rydym ninnau hefyd yn siomedig ynghylch ymateb Llywodraeth y DU i’r adroddiad. Er ein bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflwyno gwelliant i Fil yr UE (Ymadael) a fydd yn sicrhau y bydd yn rhaid i Weinidogion ddangos bod deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ymadael â’r UE yn cydweddu â Deddf Cydraddoldeb 2010, rydym o’r farn y dylai hwn gael ei ehangu, yn unol â’r argymhelliad a wnaethpwyd gennych chi, i gynnwys pob deddfwriaeth, ac nid deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn unig.

Fel Pwyllgor, rydym yn awyddus i’n pryderon gael eu clywed ar lefel y DU, ac felly byddem yn croesawu pob cyfle i gydweithio gyda phwyllgorau cyfatebol, gan gynnwys, gyda’r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau. Deallaf fod ein clercod yn gweithio ar hyn o bryd ar geisio dod o hyd i ddyddiad sy’n gyfleus i bawb ohonom.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych maes o law, a byddaf yn ddiolchgar am ymateb erbyn dydd Gwener 26 Ionawr 2018.

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.



[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Cyfarfod Llawn, Eitem 3, 11 Hydref 2016